Cyfeiriad y Gwesty yw 19 Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, ar y prif Bromenâd. Dilynwch yr arwyddion at lan y môr ac anelwch am y pier, gan deithio â’r môr ar yr ochr dde i chi a’r gwestai ar yr ochr chwith.
- Mae’r gwesty gyferbyn â glanfa fechan ar yr ochr chwith, ychydig bellter o’r palmant.
- Gellir aros y tu allan i’r gwesty i adael gwesteion allan o gerbyd.
- Mae llefydd parcio rhad ac am ddim am gyfnodau penodol ar hyd y Promenâd.
Y Brif Fynedfa
I fynd at y brif fynedfa o’r palmant mae gofyn dringo dau ris a thrwy gât, wedyn mynd ar hyd llwybr o 30 troedfedd sy’n goleddu i fyny ac sy’n arwain at chwe gris llechen sy’n bum troedfedd o led a rhwng 5″ ac 8″ o uchder, a rhwng 14″ a 22″ o ddyfnder.
- Mae canllaw bob ochr i’r grisiau hyn.
- Mae’r grisiau yn arwain at y porth ac un gris drwy’r drws ffrynt sy’n dair troedfedd o led ac yn 7″ o uchder.
- Nid yw ymyl flaen y grisiau hyn wedi ei hamlygu.
- Mae’r brif fynedfa yn arwain at y cyntedd.
- Mae desg y dderbynfa 30 troedfedd o’r brif fynedfa.
- Does dim lle i eistedd yn y dderbynfa.
- Mae rhywun yn gweithio yn y dderbynfa 24 awr y dydd, ac mae System Dolen Sain yno.
- Mae desg y dderbynfa yn bedair troedfedd o uchder.
- Mae clipfwrdd ar gael os na fyddai’r ddesg yn addas.
- Mae mynedfa ar gael yn y cefn hefyd.
- Lôn gefn gul sy’n arwain at y fynedfa hon ac mae gofyn troi cornel 90 gradd i fynd at y drws.
- Un gris sydd wrth y fynedfa hon, ac mae’n 35½” o led, yn 8″ o uchder ac yn 15½” o ddyfnder.
- Nid yw ymyl flaen y gris wedi ei hamlygu ac nid oes canllaw yno.
- Lled glir y drws wedi’i agor yw 27″.
- Mae’r trothwy yn 6″ o uchder ac yn 27″ o led.
- Mae gwasanaeth porthor ar gael ar gyfer cludo bagiau.
Ystafell Wely
- Mae wyth ystafell wely yn y gwesty.
- Mae setiau teledu LCD wedi eu gosod ar y wal ymhob ystafell, gyda rheolydd pell, chwaraewyr DVD a Freeview, tegellau wifr, sychwyr gwallt, offer smwddio, ffôn wrth erchwyn y gwely, a chysylltiad diwifr i’r we.
- Mae golau da uwchben a golau ychwanegol wrth erchwyn y gwely.
- Mae mannau storio ar gael ar sawl uchder gwahanol ac mae’n hawdd gafael yn y dolenni i agor gwahanol ddrysau’r mannau orio.
- Mae dolenni trosol ar ddrysau’r holl ystafelloedd gwely, ac mae’r drysau’n agor i mewn.
- Mae dolenni trosol ar ddrysau’r holl ystafelloedd ymolchi, ac maelr drysau’n agor i mewn, heblaw am ddrws Ystafell 8, sy’n or allan.
- Mae ystafelloedd ymolchi en-suite ymhob ystafell, gyda bath a/neu gawod ymhob un.
- Mae carped ar loriau’r ystafelloedd gwely, a theiliau ar loriau’r ystafelloedd ymolchi.
- Cerrig naturiol yw’r teiliau ar loriau’r ystafelloedd ymolchi, ac mae matiau bath er mwyn helpu i atal pobl rhag llithro.
- Nid oes canllawiau bachu yn yr ystafelloedd ymolchi.
- Mae’r gweithdrefnau dianc mewn tân wedi eu nodi’n glir ar gefn drws pob ystafell wely.
- Mae dwy ystafell wely ar gael ar y llawr gwaelod.
Arwain at bob llawr
- Does dim lifft ar gael.
- Grisiau crwm â charped arno sy’n arwain at bob llawr, a chanllaw ar un ochr i’r grisiau (ar yr ochr dde i esgyn y grisiau, yr ochr chwith i’w disgyn).
- Mae’r grisiau yn dair troedfedd o led, yn 6″ o uchder ac yn 9.5″ o ddyfnder.
- Mae gofyn dringo 16 gris i gyrraedd y llawr cyntaf.
- Mae 16 gris yn ychwanegol at hynny er mwyn cyrraedd yr ail lawr.
- Mae 14 gris yn ychwanegol at hynny er mwyn cyrraedd y trydydd llawr.
Bwyty a Bar
- Yn y seler y mae’r bwyty a’r bar, a gellir mynd yno drwy esgyn 14 gris o ddesg y dderbynfa. Mae’r grisiau hyn yn 30″ o led, yn 10.5″ o ddyfnder ac yn 7.5″ o uchder.
- Ar y llawr hwn y gweinir brecwast.
- Gellir gweini brecwast yn yr ystafelloedd gwely ar gyfer pobl nad ydynt yn medru cyrraedd at y bwyty.
- Mae gwasanaeth gweini ar gael bob amser.
- Gellir darparu bwydlen print bras drwy drefniant ymlaen llaw.
- Gellir darparu ar gyfer deietau arbennig drwy drefniant ymlaen llaw.
- Mae tai bach y cwsmeriaid ar y llawr gwaelod.
- Nid yw tai bach y cwsmeriaid wedi eu haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn.
Amrywiol
Mae croeso i gwn cymorth. Larymau tân clywadwy sydd yn y gwesty. Mae’r perchnogion yn cydnabod nad yw hyn yn addas i bob gwestai o reidrwydd ac rydym yn barod i drafod ffyrdd eraill o rybuddio a gweithdrefnau dianc eraill adeg archebu neu gyrraedd y gwesty. Rydym yn barod i roi cyngor ar addasrwydd y gwesty ar sail anghenion unigol, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ofynion arbennig.