Bwyty

Yma yn Gwesty Cymru, mae gennym fwyty cyffrous sy’n canolbwyntio ar y cysyniad o Gwlad, Môr a Awyr. Dywed ein tîm cegin eu bod yn dymuno creu bwyd bendigedig sy’n “garedig i’r amgylchedd”. Mae gennym ni opsiynau fegan a heb glwten ar gael trwy’r dydd.

Mae tocynnau anrheg ar gael trwy e-bost a hefyd yn yr adeilad. Mae pob taleb yn adenilladwy am hyd at 6 mis o’r diwrnod prynu.  

Mae croeso i chi archebu bwrdd drwy tableagent:
https://tableagent.com/wales/the-wine-bar-at-gwesty-cymru/

Rydym wedi dewis amrywiaeth o winoedd sydd wedi ennill gwobrau, ac o amrywiol brisiau. Mae gennym winoedd yn amrywio o £19 y botel hyd at winoedd, sydd wedi ennill gwobrau, ac sydd dros £100 y botel. Mae’n gwinoedd i gyd ar gael i’w prynu heb fod wedi cael eu hagor fel opsiwn têc-awê, am bris gostyngol.

Mae’n rhestr gwin yn cynnwys gwinoedd Hwngaraidd crefftus, gwinoedd Cymreig, Lebanesaidd ac Armenaidd ynghŷd â nifer o winoedd gwyn a choch Ffrengig hynod flasus. Mae gennym yn ogystal, amrywiaeth o Siampaen, sydd ar gael wrth y botel, neu fesul gwydryn.