Cysylltu

Anfonwch e-bost atom, os gwelwch yn dda: info@gwestycymru.co.uk

Gallwch ysgrifennu atom: Gwesty Cymru, 19 Marine Terrace, Aberystwyth, Ceredigion. SY23 2AZ SY23 2AZ

Gallwch hefyd roi galwad i ni ar: 01970 612252

A487 o’r De (Aberteifi, Caerfyrddin, De Cymru)

Wrth gyrraedd Aberystwyth o’r De ar yr A487, ar y gylchfan, cymerwch y ffordd gyntaf â’r arwydd A487 Aberystwyth arni, parhewch am tua 1 filltir nes cyrraedd Stryd y Bont. Ewch yn syth ymlaen ger y cloc i Heol Y Wig (Pier Street), yna dilynwch y ffordd i’r dde i Glan y Môr (Marine Terrace). Lleolir Gwesty Cymru dros y ffordd i lanfa fechan a phwll padlo awyr agored – edrychwch am y garreg fawr yn yr ardd.

 

A487 o’r Gogledd (Machynlleth, Dolgellau, Gogledd Cymru)

Gan deithio i lawr Rhiw Penglais, parhewch ar y ffordd hon gan ddal i’r dde yn syth wedi’r goleuadau traffig. Arhoswch ar ochr dde’r ffordd (sy’n fforchio) fel y mae’n troi i’r dde, ac wrth y gylchfan ewch yn syth ymlaen gan basio Gorsaf Aberystwyth ar y chwith. Ar y gylchfan fechan, cymerwch yr ail fynediad, aiff â chi’n syth i Dan Dre (Mill Street). Yn y gyffordd T, trowch i’r dde i Stryd y Bont. Ewch yn syth ymlaen ger y cloc i Heol Y Wig (Pier Street), yna dilynwch y ffordd i’r dde i Glan y Môr (Marine Terrace). Lleolir Gwesty Cymru dros y ffordd i lanfa fechan a phwll padlo awyr agored – edrychwch am y garreg fawr yn yr ardd.

 

A44 o’r Dwyrain (Llangurig, Rhaeadr, Y Drenewydd, Amwythig)

Wrth ddod mewn i Lanbadarn (gan basio gorsaf betrol Texaco ar y chwith), cymerwch y fynedfa cyntaf ar y gylchfan ac yna’n syth yr ail fynedfa ar yr ail gylchfan fach a’r arwydd A44 Aberystwyth arni. Parhewch am tua milltir. Yn y gyffordd T, trowch i’r chwith gan ddilyn y ffordd a dal i’r dde yn syth wedi’r goleuadau traffig. Arhoswch ar ochr dde’r ffordd (sy’n fforchio) fel y mae’n troi i’r dde, ac wrth y gylchfan ewch yn syth ymlaen gan basio Gorsaf Aberystwyth ar y chwith. Ar y gylchfan fechan, cymerwch yr ail fynediad, aiff â chi’n syth i Dan Dre (Mill Street). Yn y gyffordd T, trowch i’r dde i Stryd y Bont. Ewch yn syth ymlaen ger y cloc i Heol Y Wig (Pier Street), yna dilynwch y ffordd i’r dde i Glan y Môr (Marine Terrace). Lleolir Gwesty Cymru dros y ffordd i lanfa fechan a phwll padlo awyr agored – edrychwch am y garreg fawr yn yr ardd.

GYDA THRAFNIDIAETH GYHOEDDUS: Lleolir yr orsaf bysiau a threnau ar Ffordd Alexandra. Croeswch y ffordd i Ffordd y Môr a cherddwch yn syth yn eich blaen tan y gwelwch y môr, yna trowch i’r chwith. Lleolir Gwesty Cymry bedwar drws i fyny, ychydig yn ôl o erchwyn y palmant.