Gweithgareddau

Mae Ceredigion yn rhan bendigedig o Gymru i chi ddod i’w adnabod ychydig yn well, ac mae Gwesty Cymru yn Aberystwyth yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer gwneud hynny.

Does dim yn brafiach na llond pen o wynt y môr, felly beth am fynd am dro bach ar hyd y Promenâd, cicio’r bar ar ei ddiwedd (traddodiad lleol) yna eistedd i lawr a gwylio’r tonnau. Efallai y byddwch yn dymuno gwneud un neu ddau o’r canlynol:

 

  • Mynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i dwyni tywod Ynyslas.
  • Mynd am reid ar reilffordd drydannol hiraf Prydain i fyny Craig Glais a phrofi’r golygfeydd o un o’r camerâu obscura mwyaf yn y byd.
  • Camu nol mewn hanes yng nghastell Aberystwyth, sy’n deillio o’r ddeuddegfed ganrif.
  • Rhoi tro ar olrhain eich coeden deulu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru?
  • Gwylio sioe neu ffilm yng Nghanolfan Y Celfyddydau, neu bicio rownd y gornel i Sinema’r Commodore.
  • Dal y trên stêm yng ngorsaf Trên Bach y Rheidol ac ymweld â’r rhaeadrau ysblennydd ym Mhontarfynach.
  • Mynd ar daith i Fynyddoedd y Cambrian gyda Cambrian Safaris.
  • Chwarae rownd neu ddwy o golff yng Nghlwb Golff Aberystwyth.
  • Dilyn llwybr Peaceful Places i ganfod gemau cudd Gogledd Ceredigion.
  • Profi hufen iâ mêl Cymreig yn Aberaeron.
  • Mynd ar daith cwch o Gei Newydd i edrych am ddolffiniaid.
  • Peidiwch â cholli’r drudwyod yn noswylio o dan bier Aberystwyth yn ystod y gaeaf.